Monday 31 March 2008

Youth Dance - Dawns Ieuenctid

Congratulations to all those who took part in the wonderful youth dance show. Take a look at some of the photos and be mesmerised by the skill, energy and costumes!

The next dance course will be this summer and due to high demand juniors and seniors will be separate. Junior Classes will run from 9.30am to 12.30pm, Mon 28 to Thurs 31 July and Youth Classes (Secondary school children) will run from 10am to 3pm Monday 11 to Thursday 14 August. Sign up early to avoid dissapointment!!!

For more information, to book a place or to see more photos from the performance contact the theatre on 01766 780667 or email theatrharlech@googlemail.com


Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd rhan mewn sioe ddawns ieuenctid. Edrychwch ar rai o’r lluniau a wnewch ryfeddu ar sgiliau, egni a gwisgoedd!

Bydd cwrs dawns yn dechrau haf hyn am ei fod mor boblogaidd bydd rhaid cael dwy sesiwn. Dosbarth iau am 9.30am i 12.30pm, Dydd Llun 28 i Dydd Iau 31 Gorfennaf a dosbarth hun (plant ysgol uwchradd) am 10am i 3pm, Dydd Llun 11 i Dydd Iau 14 Awst. Archebwch yn fuan!!!


Am fwy o wybodaeth i archebu lle ar y cwrs, neu i weld lluniau o'r perfformiad ffoniwch y theatr a 01766 780667 o e-bost theatrharlech@googlemail.com


*Click thumbnails to enlarge / Cliciwch ewin bawd a gwneud y lluniau yn fwy
**
Pictures taken by Gemma Hughes / Lluniau gan Gemma Hughes














Tuesday 18 March 2008

Easter - Pasg




Tues/Wed/Thurs 25/26/27 March

Dydd Mawrth/Mercher/Iau 25/26/27 Mawrth


7.30pm

The Water Horse: Legend of the Deep (PG)
Director: Jay Russell. (USA/2007)

A lonely boy discovers a mysterious egg that hatches a sea creature of Scottish legend.
Bachgen unig yn dod o hyd i ŵy rhyfedd sy’n agor i fod yn fwystfil o chwedloniaeth yy Alban.

Tocynnau £4.50/Plant £3.50






Tuesday -Friday 25-28 March
9.30am-12.30pm

YOUTH DANCE COURSE

Following the success of the October course Hannah Norris returns to teach more inventive choreographed routines from the world of musical. This course was very popular so early booking recommended.

Dydd Mawrth-Dydd Gwener 25- 28 Mawrth
9.30am-12.30pm


CWRS DAWNS IEUENCTID

Daw Hannah Norris yn ol i’r theatr ar ol ei llwyddiant ym mis Hydref, y tro hwn i ddangos i ni sut i ddawnsio yn arddull y Sioeau Cerdd. Dyma gwrs sydd yn debygol o fod yn boblogaidd iawn felly trefnwch eich lle yn gynnar.

£24




Mon 31 March, Tues/Wed 1/2 April
Dydd Llun 31 Mawrth, Dydd Mawrth/Mercher 1/2 Ebrill

7.30pm

Sweeney Todd (18)
Director: Tim Burton (USA/2007/105mins)

Johnny Depp and Tim Burton bring this 18th Century musical of a demon barber pf Fleet Street to life, when the escaped prisoner and barber vows to get his revenge.
Daw yr addasiad hon o'r sioe gerdd 'demon barber of Fleet Street' yn fyw gyda Johnny Depp a Tim Burton, lle mae'r carcharor yn dianc ac yn mynnu dial ar ei fradwr.


Tocynnau £4.50/Plant £3.50




Dydd Gwener 4 Ebrill
7.30pm

Y Gobaith a'r Angor
gan Dylan Rees

Gosodir drama nesaf Bara Caws mewn tafarn mewn tref fach ddi-nod yn y gogledd.
Yn ‘Y Gobaith a’r Angor’ mae Dylan Rees, sy’n sgwennu i’r cwmni am y tro cyntaf,
yn cyflwyno criw o gymeriadau trist a ffraegar wrth iddynt rygnu bod o ddydd i ddydd o dan gysgod anobaith a phwysau beunyddiol byw mewn byd sy’n gwegian. Fel pysgod mewn powlen ‘dydyn nhw ddim yn ymwybodol eu bod yn mynd o gwmpas mewn cylchoedd yn ail adrodd yr un straeon a’r un sefyllfaoedd nac yn gweld fod pob tro o gwmpas y bowlen yn dro agosach i’w gwaelod. Mae’r ddeialog yn fyw ac yn tincial fel y gwydrau sy’n prysur wagio a phob un o’r cymeriadau yn chwilio am ateb gwahanol yn ewyn chwerw gweddillion eu breuddwydion.

Yn llawn hiwmor tywyll, deialog sy’n diferu o fwg y snyg a phigiadau miniog y darts, mae’n addo noson yng nghwmni cymeriadau sy’n gyfarwydd i ni gyd, fydd yn aros yn hir yn y cof.

Yr actorion yw Gwenno Elis Hodgkins, Dyfrig Wyn Evans, John Glyn Owen,
Huw Llŷr a Gwyn Vaughan a bydd Maldwyn John, sydd â chysylltiadau clos a’r cwmni ers blynyddoedd, yn cymryd y llyw fel cyfarwyddwr.

Ganed Dylan Rees yn Aberystwyth ac fe’i magwyd ym Moelfre, Ynys Môn Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Syr Thomas Jones Amlwch a Choleg y Brifysgol Gogledd Cymru, Bangor lle raddiodd mewn Saesneg a Drama. Bu’n byw yng Nghaernarfon am bymtheg mlynedd. Dyma ei ddrama gyntaf.

Noder: defnyddir iaith gref


Tocynnau £10/Plant £6

Monday 10 March 2008

Hamlet


Using a minimalist approach, Hamlet is presented by the Danish theatre company Det Lille Turnetheater. I am really excited at the prospect of seeing this, my favourite of all Shakespeare’s tragedies enacted by 4 actors and 2 double basses in less than 90 minutes! Drag along your philistine children, friends or neighbours on Monday 17 March at 7.30pm and take credit for (and pleasure in) their excitement at seeing great drama on a little stage.

Tickets for the performance are only £8.00 (£10.00 on the day).To book tickets or to find out more information call Theatr Harlech on 01766 780887 or call in to the Box Office.

Not Suitable for Under 10s






Gan ddefnyddio ymdriniaeth minimalistig, Hamlet, yn cael ei chyflwyno gan gwmni theatr Danaidd - Det Lille Turnetheater. Rwy’n wirioneddol gynhyrfus at y cyfle o weld hon, fy ffefryn o holl ddramâu trasiedïol Shakespeare, yn cael ei hactio gan 4 actor a 2 fas dwbl mewn llai na 90 munud!. Llusgwch eich plant philistaidd, ffrindiau neu gymdogion Ddydd Llun, Mawrth 17eg am 7.30pm a chymrwch y clod (a’r pleser) am eu cynnwrf o weld drama fawr ar lwyfan bach.


Dim ond £8.00 (£10.00 ar y diwrnod) yw pris tocynnau ar gyfer yr perfformiad. I archebu tocynnau neu i gael mwy o wybodaeth ffoniwch Theatr Harlech ar 01766 780887 neu galwch yn y Swyddfa Docynnau.


Ond i'r rhai sydd dros 10 oed



Created in 1999, Denmark’s Det Lille Turnéteater’s HAMLET has won awards and praise:

“The narrative is kept amazingly intact. You’ll be astonished (but delighted) to see how much of the four hour original that is kept in this brisk 75-minute reduction... recommended for all the young - the young in age, the young in mind and the young in spirit” Toronto Star

“This is not merely good theatre for youth, but theatre for youth that borders on the great.… This may be a simple production, but it is the kind of simplicity that only great talent dares employ. Shakespeare, I think, would have been impressed.” Toronto Sun