Annwyl Gyfaill
Mae’n siŵr gen i eich bod wedi clywed na fydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn parhau i ariannu Theatr Harlech. Afraid dweud eich bod chi, fel ninnau, yn poeni am ddyfodol ein theatr annwyl.
Wrth reswm rydyn ni’n siomedig na lwyddodd y Cyngor Celfyddydau i ganfod yr arian i gefnogi’n cynllun, ond rhaid cofio ein bod mewn cyfnod o ansicrwydd ariannol. 'Rydym yn gwbl ymroddedig i barhau i gynnal digwyddiadau yn y theatr ac mi fyddwn yn rhoi gwybod i chi o'r hyn sy'n digwydd.
OND…. dros y tair blynedd ddiwethaf rydyn ni wedi bod yn mynd â digwyddidau’r theatr allan i’r gymuned ac rydyn ni ar ben ein digon bod y Cyngor Celfyddydau’n cydnabod hynny - “rydych wedi dangos nad yw digwyddiadau celfyddydol o’r radd orau yn dibynnu’n llwyr ar adeilad y theatr, ” medden nhw.
Mae Bwrdd a Staff Theatr Harlech wedi bod yn prysur baratoi a HEDDIW rydym yn lansio cynllun gwaith newydd o’r enw CYTSER. Y bwriad ydi mynd â’r celfyddydau o’r adeilad ac i’r gymuned. Dros y chwe mis nesaf byddwn yn cydweithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Gwynedd ar y cynlluniau yma gan ddatblygu theatr gymunedol, corau cymunedol, grwpiau dawns, gweithdai ffilm ac animeiddio a pherfformiadau gan berfformwyr o fri. Bydd y rhain ar gael nid yn unig yn Harlech ond ym Mhorthmadog, Blaenau a Dolgellau hefyd.
Mae cynllun CYTSER wedi ei ddatblygu gan Jacqui Banks, y Gyfarwyddwraig dros dro, a Clare Williams, cyn Cyfarwyddwraig y Theatr. Disgrifiodd Cyngor Celfyddydau Cymru y cynllun fel “menter gyffrous ac arloesol a ddylai fynd â gwaith rhagorol y Theatr allan i’r cymunedau cyfagos.”
Yn yr adeilad, tu allan i’r adeilad, yn y Castell neu ar drên i Abermaw – does dim celfyddyd yng Ngwynedd hebddoch chi. Byddwn yn cysylltu gyda’r diweddaraf.
Rydym yn gobeithio gweld chi yn rai o'n digwyddiadau Haf!
Yn gywir
Tîm Harlech
Dear Friend
You will probably have heard that last week Arts Council Wales decided not to continue funding Theatr Harlech as it has in the past and you – like us – will doubtless be concerned about the future of our lovely theatre.
Naturally we were disappointed that the Arts Council couldn’t find the money to support the programme but these are difficult times. We are committed to keeping events in the theatre and we will keep you informed about what is happening.
BUT ... over the last three years we have been reaching out to a broader community and were absolutely thrilled that the Arts Council recognised this saying “you have demonstrated that high quality arts activity is not solely dependent on a theatre building”.
The Board and staff of Theatr Harlech have been preparing and TODAY we are launching a new programme of work called CONSTELLATION which aims to take the arts out of the building and into the community. Working with Arts Council Wales and Cyngor Gwynedd over the next six months these plans will be developed to include community theatre, community choirs and dance groups, film and animation workshops and professional performances not just in Harlech but also in Porthmadog, Blaenau and Dolgellau.
The CONSTELLATION programme has been developed by Jacqui Banks Interim Director and Clare Williams previously Director of the Theatre. CONSTELLATION was described by Arts Council Wales as “an exciting and compelling initiative that should take the venue’s excellent work out into nearby communities”.
In the building, out of the building, in the Castle or on a train to Barmouth there is no arts in Gwynedd without you and we will keep you informed.
We hope to see you at some of our Summer events!
Yours
Team Harlech