Tuesday 18 March 2008

Easter - Pasg




Tues/Wed/Thurs 25/26/27 March

Dydd Mawrth/Mercher/Iau 25/26/27 Mawrth


7.30pm

The Water Horse: Legend of the Deep (PG)
Director: Jay Russell. (USA/2007)

A lonely boy discovers a mysterious egg that hatches a sea creature of Scottish legend.
Bachgen unig yn dod o hyd i ŵy rhyfedd sy’n agor i fod yn fwystfil o chwedloniaeth yy Alban.

Tocynnau £4.50/Plant £3.50






Tuesday -Friday 25-28 March
9.30am-12.30pm

YOUTH DANCE COURSE

Following the success of the October course Hannah Norris returns to teach more inventive choreographed routines from the world of musical. This course was very popular so early booking recommended.

Dydd Mawrth-Dydd Gwener 25- 28 Mawrth
9.30am-12.30pm


CWRS DAWNS IEUENCTID

Daw Hannah Norris yn ol i’r theatr ar ol ei llwyddiant ym mis Hydref, y tro hwn i ddangos i ni sut i ddawnsio yn arddull y Sioeau Cerdd. Dyma gwrs sydd yn debygol o fod yn boblogaidd iawn felly trefnwch eich lle yn gynnar.

£24




Mon 31 March, Tues/Wed 1/2 April
Dydd Llun 31 Mawrth, Dydd Mawrth/Mercher 1/2 Ebrill

7.30pm

Sweeney Todd (18)
Director: Tim Burton (USA/2007/105mins)

Johnny Depp and Tim Burton bring this 18th Century musical of a demon barber pf Fleet Street to life, when the escaped prisoner and barber vows to get his revenge.
Daw yr addasiad hon o'r sioe gerdd 'demon barber of Fleet Street' yn fyw gyda Johnny Depp a Tim Burton, lle mae'r carcharor yn dianc ac yn mynnu dial ar ei fradwr.


Tocynnau £4.50/Plant £3.50




Dydd Gwener 4 Ebrill
7.30pm

Y Gobaith a'r Angor
gan Dylan Rees

Gosodir drama nesaf Bara Caws mewn tafarn mewn tref fach ddi-nod yn y gogledd.
Yn ‘Y Gobaith a’r Angor’ mae Dylan Rees, sy’n sgwennu i’r cwmni am y tro cyntaf,
yn cyflwyno criw o gymeriadau trist a ffraegar wrth iddynt rygnu bod o ddydd i ddydd o dan gysgod anobaith a phwysau beunyddiol byw mewn byd sy’n gwegian. Fel pysgod mewn powlen ‘dydyn nhw ddim yn ymwybodol eu bod yn mynd o gwmpas mewn cylchoedd yn ail adrodd yr un straeon a’r un sefyllfaoedd nac yn gweld fod pob tro o gwmpas y bowlen yn dro agosach i’w gwaelod. Mae’r ddeialog yn fyw ac yn tincial fel y gwydrau sy’n prysur wagio a phob un o’r cymeriadau yn chwilio am ateb gwahanol yn ewyn chwerw gweddillion eu breuddwydion.

Yn llawn hiwmor tywyll, deialog sy’n diferu o fwg y snyg a phigiadau miniog y darts, mae’n addo noson yng nghwmni cymeriadau sy’n gyfarwydd i ni gyd, fydd yn aros yn hir yn y cof.

Yr actorion yw Gwenno Elis Hodgkins, Dyfrig Wyn Evans, John Glyn Owen,
Huw Llŷr a Gwyn Vaughan a bydd Maldwyn John, sydd â chysylltiadau clos a’r cwmni ers blynyddoedd, yn cymryd y llyw fel cyfarwyddwr.

Ganed Dylan Rees yn Aberystwyth ac fe’i magwyd ym Moelfre, Ynys Môn Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Syr Thomas Jones Amlwch a Choleg y Brifysgol Gogledd Cymru, Bangor lle raddiodd mewn Saesneg a Drama. Bu’n byw yng Nghaernarfon am bymtheg mlynedd. Dyma ei ddrama gyntaf.

Noder: defnyddir iaith gref


Tocynnau £10/Plant £6

No comments: