Monday 5 October 2009

Theatr Genedlaethol Cymru

Tyner Yw'r Lleuad Heno

Byddwch yn barod i brofi theatr Gymraeg ar ei orau wrth i Theatr Genedlaethol Cymru ymweld â Theatr Harlech am y tro cyntaf i berfformio drama gomisiwn newydd Meic Povey, Tyner yw’r Lleuad Heno nos Fercher 14eg, nos Iau 15fed a nos Wener y 16eg o Hydref am 7:30yh.

Cewch gyfle i fod gyda’r cyntaf i weld drama gignoeth newydd gan un o ddramodwyr amlycaf Cymru, a’r ddrama honno yn cael ei pherfformio gan brif gwmni theatr Cymru. Mae Meic Povey yn gyfarwydd iawn ag ysgrifennu i’r theatr a’r teledu, ac wedi ennill cydnabyddiaeth fel un o ddramodwyr Cymreig gorau ein cyfnod. Ef fydd hefyd yn cyfarwyddo’r cynhyrchiad sy’n cynnwys Merfyn Pierce Jones, Ffion Dafis, Buddug Povey ac Owen Garmon fel rhai o aelodau’r cast o saith.

Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi cynhyrchu cyfres o berfformiadau llwyddiannus gan lwyddo i ddenu cynulleidfaoedd yn eu miloedd i’r theatrau i weld cynyrchiadau fel Tŷ Bernada Alba, Siwan a Porth y Byddar. Mae’r cwmni ar fin cychwyn cyfnod o ddatblygu wrth iddynt arbrofi ag arddulliau o lwyfannu a theithio i ardaloedd newydd, gan ymestyn eu baner ‘genedlaethol’.

Drama gref sydd â chyffyrddiadau ffraeth ynddi yw Tyner yw’r Lleuad Heno, gan eich arwain ar daith emosiynol gyffrous wrth i deulu ddatgelu eu cyfrinachau tywyll. Cewch weld drama bwerus llawn tensiwn a throeon annisgwyl, a phrofi theatr ar ei orau yma yn Theatr Harlech.

Archebu Tocynnau
Gwnewch yn siwr nad ydych yn colli’ch cyfle i weld y ddrama gyffrous hon! Mae tocynnau ar werth am £10 (£5 gostyngiadau) o flaen llaw (£12.50 ar y drws), felly archebwch nawr drwy ffonio ein Swyddfa Docynnau ar 01766 780667.

No comments: