Showing posts with label Drama Cymraeg. Show all posts
Showing posts with label Drama Cymraeg. Show all posts

Monday, 5 October 2009

Theatr Genedlaethol Cymru

Tyner Yw'r Lleuad Heno

Byddwch yn barod i brofi theatr Gymraeg ar ei orau wrth i Theatr Genedlaethol Cymru ymweld â Theatr Harlech am y tro cyntaf i berfformio drama gomisiwn newydd Meic Povey, Tyner yw’r Lleuad Heno nos Fercher 14eg, nos Iau 15fed a nos Wener y 16eg o Hydref am 7:30yh.

Cewch gyfle i fod gyda’r cyntaf i weld drama gignoeth newydd gan un o ddramodwyr amlycaf Cymru, a’r ddrama honno yn cael ei pherfformio gan brif gwmni theatr Cymru. Mae Meic Povey yn gyfarwydd iawn ag ysgrifennu i’r theatr a’r teledu, ac wedi ennill cydnabyddiaeth fel un o ddramodwyr Cymreig gorau ein cyfnod. Ef fydd hefyd yn cyfarwyddo’r cynhyrchiad sy’n cynnwys Merfyn Pierce Jones, Ffion Dafis, Buddug Povey ac Owen Garmon fel rhai o aelodau’r cast o saith.

Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi cynhyrchu cyfres o berfformiadau llwyddiannus gan lwyddo i ddenu cynulleidfaoedd yn eu miloedd i’r theatrau i weld cynyrchiadau fel Tŷ Bernada Alba, Siwan a Porth y Byddar. Mae’r cwmni ar fin cychwyn cyfnod o ddatblygu wrth iddynt arbrofi ag arddulliau o lwyfannu a theithio i ardaloedd newydd, gan ymestyn eu baner ‘genedlaethol’.

Drama gref sydd â chyffyrddiadau ffraeth ynddi yw Tyner yw’r Lleuad Heno, gan eich arwain ar daith emosiynol gyffrous wrth i deulu ddatgelu eu cyfrinachau tywyll. Cewch weld drama bwerus llawn tensiwn a throeon annisgwyl, a phrofi theatr ar ei orau yma yn Theatr Harlech.

Archebu Tocynnau
Gwnewch yn siwr nad ydych yn colli’ch cyfle i weld y ddrama gyffrous hon! Mae tocynnau ar werth am £10 (£5 gostyngiadau) o flaen llaw (£12.50 ar y drws), felly archebwch nawr drwy ffonio ein Swyddfa Docynnau ar 01766 780667.

Friday, 17 July 2009

Mabinogion

Mabinogion

Ar ôl misoedd o ymarfer a pharatoi, perfformiwyd y Mabinogion yng Nghastell Harlech ar yr 13 a 14 o Orffennaf, gan dros 200 o blant ysgolion uwchradd Gwynedd. Er y tywydd di-galon, roedd y plant a'r cynulleidfa yn llawn cyffro a bwrlwm, yn barod am y sioeau o'u blaenau. I gychwyn y perfformio, cafodd dros 200 o blant ysgol cynradd ac ymwelwyr ei diddannu ar y p'nawn dydd Llun, gyda drama, pypedwaith, cerddoriaeth a llawer llawer mwy! Ond yn anffodus, troi am y gwaeth wnaeth y tywydd, ac erbyn i'r nos gyrraedd, roedd gormod o lawer o law yn disgyn, ac roedd rhaid canslo'r sioe.







Er nad oedd y tywydd lawer gwell ar y dydd Mawrth, roedd y plant, yr artisitiaid a'r criw yn benderfynnol o berfformio sioe gwerth chweil i'r cynulleidfa, a dangos yn uion yr holl waith caled a'r paratoi oedd wedi mynd i fewn i'r sioe. A dyna yn union ddigwyddodd!

Cafodd y cynulleidfa wledd o berfformiad, o weld pobl yn cerdded ar stiltiau i weld tafluniadau anhygoel ar furiau'r castell; o weld pobl yn taflu tân a fflamau, i glywed cerddoriaeth byw gan fand pres a band samba; actio, dawnsio, pypedwaith a gormod o bethau o lawer i mi allu enwi i gyd.




Roedd y sioe yn lwyddiant anhygoel, a dylai pawb oedd yn rhan ohono fod yn falch iawn o'u gwaith caled a'u hymdrechion diddiwedd.


REVIEW: MABINOGION, Castell Harlech, Tuesday 14 July, 2009


Audience wowed by Magnificent MABINOGION at Castell Harlech.Those lucky enough to be at Castell Harlech on Tuesday night witnessed aspectacle-the like of which has never been seen.One member of the audience wrote to us:'It was a splendid event in a great setting. Talk about "animatingpublic spaces"....the towers, the walls, the battlements and everysquare yard of the green was used. In one particularly striking momentone of the young characters went up a ladder and disappeared through aarcher's slit window....! Even the car park was used.


The project is based on the ancient Welsh mythic tales of theMabinogion - told in four sections or branches and last night each wasgiven its own treatment by over 300 young people mostly from secondaryschools (Ysgolion Eifionydd, Ardudwy, Moelwyn, Berwyn, Tywyn and Gader) butincluding a contingent from late primary ages. All the secondary schools in the area have been working on the project for over18 months developing the storyline and the media for telling it. Added in were community groups - a circus group from a Communities Firstproject, athletes from a gymnastic club, fire jugglers, a samba band, abrass band, a solo double bass, a film projection which includedspecially made animated images plus computer generated effects, lightingeffects and a very imaginative audio track some of which had beenspecially composed by college students. Live film of the action wasprojected onto the castle walls along with the other images.


Artists had been working with the young people over several months toproduce props made of a great variety of materials - there were ships,banners, full costumes; there were also fight sequences, dance sequencesand choreographed crowd scenes. Solo singing was featured as well as acappella choral singing....A fantastic achievement, well done'


Friday, 10 July 2009

Mabinogion

Yn symud Y Mabinogion o’r dudalen ac i Gastell Harlech fel y gallwch gamu i mewn i’r storiâu a’ch cario ar hyd donnau’r bwrlwm…

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae 6 o ysgolion uwchradd Gwynedd ym Mlaenau Ffestiniog, Harlech, Dolgellau, Porthmadog, Y Bala a Tywyn wedi bod yn gweithio ar nifer o wahanol ddelweddau o’r Mabinogion, y rhai enwog a hefyd y rhai llai adnabyddus, gyda’r bwriad o wthio’r ffiniau artistig a dod â’r storiâu yn fyw yn y castell. Bydd y sioe yn gyfle anhygoel i blant weld eu cyfoedion yn perfformio mewn sbectacl sydd wedi cael ei greu gan dros 20 o artistiaid, gan gynnwys Mair Thomos Ifans a Cath Aran, yn ogystal â 400 o ddisgyblion Uwchradd ar hyd Gwynedd. Gydag elfennau o ddawns, syrcas, drama, pypedwaith, cerddoriaeth fyw a phasiantri, mi fydd o'n sioe bythgofiadwy!!


Taking the Mabinogion from the page and into Castell Harlech so that you can step into the stories and be carried along on the wave of action…

Over the past year 6
secondary schools in Blaenau, Porthmadog, Harlech, Dolgellau, Bala and Tywyn have been working on various images from the Mabinogion, both the famous and the less well known, with the sole intention of pushing artistic boundaries and bringing the stories to life. A great opportunity for youngsters to see their peers performing in a spectacle that has been devised by over 20 artists, including Mai Tomos Ifans and Cath Aran, and 400 secondary school pupils from across Gwynedd. With circus, dance, drama, digital projections, live music, puppetry and pageantry it promises to be an unmissable, unforgettable show